With the 2019/20 Guinness PRO14 season kicking off this weekend, supporters of Dragons and all of Wales’ four rugby regions will be able to follow their team throughout the campaign with live and deferred games on S4C.
The Clwb Rygbi team return with three matches this weekend. Live coverage of Scarlets v Connacht is on Saturday 28 September at 5.15pm and there will be deferred coverage of Ulster v Ospreys, at 3.10pm on Sunday 29 September, and Southern Kings v Cardiff Blues, at 10pm on Monday 30 September.
Throughout the season, Clwb Rygbi, will show 17 live matches and a further 40 deferred games. Should a Welsh region progress to the Guinness PRO14 final, at the Cardiff City Stadium next June S4C will have live coverage of game.
Matches will be broadcast live on television and online and available on catch up for 35 days on S4C Clic.
Sue Butler, S4C Sports Commissioner, said: "Rugby is the focus of everyone’s attention this Autumn and S4C is the only channel with regular live coverage of the Welsh regions in the Guinness PRO14 on free-to-air television. Good luck to all four regions and hope to see you in Cardiff for the final next June”.
Martyn Phillips, WRU CEO, said: "S4C are a much valued and highly supportive partner of Welsh rugby and their high standard coverage of the Guinness PRO14 and the Welsh regions in particular is greatly welcomed.
"The Welsh language broadcaster and Welsh rugby have established a successful and mutually beneficial relationship which is able to bring our great game directly into the living rooms of dedicated supporters throughout Wales and long may that continue."
How to watch S4C:
S4C is available in Wales on:
- Freeview -4
- Virgin TV -166
- Freesat -104
- Sky -104
Outside Wales on:
- Virgin TV -166
- Freesat -120
- Sky -134
Watch live and on demand for 35 days exclusively via S4C Clic; online or on the app.
-----
Ar drothwy tymor 2019/20 y Guinness PRO14, bydd cefnogwyr o’r pedwar rhanbarth yn gallu dilyn eu timoedd drwy’r ymgyrch gyfan gyda gemau byw a darllediadau gohiriedig ar S4C.
Bydd tîm Clwb Rygbi yn dychwelyd i’r sgrin y penwythnos hwn i ddarlledu tair gêm Guinness PRO14.
Bydd darllediad byw o’r gêm rhwng Scarlets a Connacht ar nos Sadwrn 28 Medi am 5.00pm, yn ogystal â darllediadau gohiriedig o Ulster v Gweilch, am 3.10pm ar ddydd Sul 29 Medi, a Southern Kings v Gleision Caerdydd, am 10pm ar nos Lun 30 Medi.
Bydd Clwb Rygbi yn dangos 17 gêm byw ac yn darlledu 40 gêm ychwanegol y tymor hwn.
Pe bai rhanbarth o Gymru yn symud ymlaen i’r rownd derfynol, a gynhelir yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mîs Mehefin 2020, bydd S4C yno i ddangos y gêm yn fyw.
Bydd gemau yn cael eu darlledu'n fyw ar y teledu ac ar-lein trwy S4C Clic, sy'n rhoi’r cyfle i wylwyr ddal i fyny am 35 diwrnod wedi’r darllediad.
Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae Rygbi ar feddwl pawb dros yr Hydref ac S4C yw’r unig sianel deledu rhad-ac-am-ddim fydd yn dangos gemau byw rhanbarthau Cymru yn rheolaidd. Pob lwc i’r pedwar rhanbarth a gobeithio byddwn ni’n eich gweld chi yng Nghaerdydd mis Mehefin nesaf."
Meddai Martyn Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: "Mae S4C yn bartner hynod o werthfawr i rygbi yng Nghymru ac mae’n rhaid canmol safon eu darpariaeth o gemau’r rhanbarthau yn y Guinness PRO14.
"Mae S4C yn ddarlledwr sy’n cefnogi rygbi yng Nghymru yn fawr iawn drwy ddod a’r gemau gwych hyn yn syth i dai cefnogwyr rygbi ledled y wlad, a bydded i hynny barhau."